Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 5, Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Llun, 26 Medi 2022
Amser:
11.30 -
16.10
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12968
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Huw Irranca-Davies AS (Cadeirydd) Rhys ab Owen AS Alun Davies AS James Evans AS |
Tystion: |
Sir Nicholas Green, Comisiwn y Gyfraith Dr Charles Mynors, Comisiwn y Gyfraith Nicholas Paines, Comisiwn y Gyfraith |
Staff y Pwyllgor: |
P Gareth Williams (Clerc) Gerallt Roberts (Ail Glerc) Sarah Sargent (Ail Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau na dirprwyon.
2 Offerynnau negyddol arfaethedig nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiadd arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3B
2.1 pNeg(6)003 - Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon y dylai'r weithdrefn negyddol fod yn gymwys.
3 Offerynnau nad ydynt yn cynnwys unrhyw faterion i’w codi o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
3.1 SL(6)236 - Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) (Arolygwyr Cymeradwy) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3.2 SL(6)239 - Rheoliadau Ymchwiliadau Llywodraeth Leol (Swyddogaethau Swyddogion Monitro a Phwyllgorau Safonau) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3.3 SL(6)240 - Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
3.4 SL(6)241 - Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) (Diwygio) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
4 Offerynnau sy'n codi materion i gyflwyno adroddiad arnynt i'r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol
4.1 SL(6)233 - Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 3) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.2 SL(6)237 - Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Gwladolion Wcreinaidd ac Aelodau o’u Teuluoedd) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022
The Committee considered the instrument and agreed to report to the Senedd in linBu'r Pwyllgor yn ystyried yr offeryn a chytunwyd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.e with the reporting point identified.
4.3 SL(6)238 - Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i geisio rhagor o eglurhad gan Lywodraeth Cymru.
4.4 SL(6)243 - Rheoliadau Rhentu Cartrefi (Pennu Rhent) (Contractau wedi eu Trosi) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.5 SL(6)247 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.6 SL(6)256 - Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol ac Amrywiol) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.7 SL(6)257 - Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Diwygio Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.8 SL(6)258 - Rheoliadau Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol
4.9 SL(6)242 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.
4.10SL(6)244 - Rheoliadau Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Ad-dalu) (Diwygio) (Rhif 2) 2022
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.
5 Is-ddeddfwriaeth nad yw'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.7
5.1 SL(6)234 - Datganiad Blaenoriaethau ac Amcanion Strategol ar gyfer Ofwat a gyhoeddwyd o dan adran 2B o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991
Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.
6 Offerynnau sy'n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd yn flaenorol
6.1 SL(6)227 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio) 2022
Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.
6.2 SL(6)229 - Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022
Trafododd a nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru. Nododd y Pwyllgor hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi tynnu’r Rheoliadau yn ôl a'u disodli â Rheoliadau a drafodwyd gan y Pwyllgor o dan eitem 4.9.
7 Datganiadau ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C
7.1 WS-30C(6)011 - Rheoliadau Anifeiliaid, Bwyd, Iechyd Planhigion, Deunyddiau Lluosogi Planhigion a Hadau (Diwygiadau Amrywiol etc.) 2022
Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r sylwadadu a chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am ragor o eglurhad
8 Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol
8.1 Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol, ac iddo gael ei anfon yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol.
8.2 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Anifeiliaid, Bwyd, Iechyd Planhigion, Deunyddiau Lluosogi Planhigion a Hadau (Diwygiadau Amrywiol etc.) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog, ac iddo gael ei anfon yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol.
8.3 Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Grŵp Rhyngweinidogol ar Berthnasoedd y DU-UE
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog, ac iddo gael ei anfon yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol.
8.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol (Diwygio) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog, ac iddo gael ei anfon yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol.
8.5 Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Prif Weinidog: Uwchgynhadledd Cyngor Prydain-Iwerddon yn Guernsey
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr gan y Prif Weinidog, ac iddo gael ei anfon yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol.
8.6 Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog, ac iddo gael ei anfon yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol.
8.7 Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Fforwm Masnach Gweinidogol
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig a’r llythyr gan y Gweinidog, ac iddo gael ei anfon yn unol â'r Cytundeb Cysylltiadau Rhyng-sefydliadol.
8.8 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
9 Papurau i'w nodi
9.1 Datganiad Ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Datganiad ar gynnydd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru
Nododd y Pwyllgor y datganiad ysgrifenedig.
9.2 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid: Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)
Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i ymateb i’r Pwyllgor Cyllid.
9.3 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Diogelwch Ar-lein
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
9.4 Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog at y Llywydd.
9.5 Gohebiaeth gan Dr Robert Jones, Canolfan Llywodraethiant Cymru: Cynnig i gynnal ymchwiliad i anghymesuredd hiliol o fewn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru
Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i’w drafod ymhellach mewn cyfarfod yn y dyfodol.
9.6 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Caffael
Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i ymateb i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.
9.7 Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol: Deddf yr Undebau Llafur (Cymru) 2017
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol.
9.8 Datganiad Ysgrifenedig a gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Adroddiad Gwerthusiad y Comisiwn Etholiadol o Gynlluniau Peilot Etholiadol Cymru
Nododd y Pwyllgor y llythyr a’r datganiad ysgrifenedig.
9.9 Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Gwybodaeth yn dilyn y sesiwn dystiolaeth, 20 Mehefin 2022
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.
9.10Gohebiaeth gan Bwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷ'r Arglwyddi: Ymchwiliad i berthynas y DU a'r UE yn y dyfodol
Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i ymateb i’r Pwyllgor Materion Ewropeaidd.
9.11Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau: Cysylltiadau rhynglywodraethol: cynigion ar gyfer Biliau’r DU i ddeddfu mewn meysydd datganoledig
Nododd y Pwyllgor y llythyr a chytunodd i ymateb i'r Ysgrifennydd Gwladol a oedd newydd ei benodi.
9.12Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar y Bil Caffael
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.
9.13Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Mynediad at gyfiawnder: Crynodeb o'r gwaith ymgysylltu
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.
9.14Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Offerynnau Statudol sy’n Deillio o Ymadael â’r UE
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.
9.15Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cytundebau rhynglywodraethol
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.
9.16Gohebiaeth gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Llywydd: Y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog at y Llywydd.
9.17Gohebiaeth gan Bwyllgor Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant Senedd yr Alban: Effaith Brexit ar Ddatganoli
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyfansoddiad, Ewrop, Materion Allanol a Diwylliant.
9.18Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Bil Hawliau
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog at y Llywydd.
10 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd ar gyfer eitemau 11 a 12 ac eitemau 14 i 20
Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
11 Cytundebau rhyngwladol
Trafododd y Pwyllgor y cytundebau rhyngwladol a ganlyn:
· Yr Ail Brotocol Ychwanegol i Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Seiberdroseddu ("Confensiwn Budapest")
· Y Protocolau sy'n ymwneud ag ymaelodi'r Ffindir a Sweden â NATO
a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft ar y cytundebau mewn cyfarfod yn y dyfodol. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i dynnu sylw Pwyllgorau perthnasol y Senedd at y cytundebau rhyngwladol.
12 Adroddiad Monitro
Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad monitro diweddaraf.
13 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru): Sesiwn dystiolaeth gyda Chomisiwn y Gyfraith
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiwn y Gyfraith (Cymru a Lloegr) ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
14 Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru):Trafod y dystiolaeth
Trafododd y Pwyllgor yn ystyried y dystiolaeth a gafwyd gan Gomisiwn y Gyfraith (Cymru a Lloegr) ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).
15 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ysgolion
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Ysgolion y DU, a chytunodd i drafod ei adroddiad drafft mewn cyfarfod yn y dyfodol.
16 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar Fil Banc Seilwaith y DU
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar Fil Banc Seilwaith y DU, a chytunodd i drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.
17 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) ar y Bil Caffael
Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 2) ar y Bil Caffael, a chytunodd i drafod ei adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol.
18 Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020: Gwaharddiadau o ran gwasanaethau
Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Weinidog yr Economi a’r datganiad ysgrifenedig gan y Cwnsler Cyffredinol. Nododd y Pwyllgor yn ffurfiol fod llythyr yn gofyn am ragor o eglurder wedi’i anfon at Weinidog yr Economi.
19 Adroddiad blynyddol
Trafododd y Pwyllgor ddrafft o'i adroddiad blynyddol a chytunodd i drafod a chytuno ar fân newidiadau i'r adroddiad y tu allan i'r Pwyllgor.
20 Blaenraglen Waith
Trafododd y Pwyllgor faterion yn ymwneud â’i flaenraglen waith, gan gynnwys gohebiaeth gan y Pwyllgor Busnes mewn perthynas â Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).